Amdanom NI
Mae Ymddiriedolaeth Agathos yn bodoli ers 2008 er mwyn cefnogi ac annog plant ac ieuenctid yr ardal i gysylltu a'r ffydd Gristnogol mewn ffordd egniol a chyffrous. Rhoddir pwyslais a'r gyswllt ac ysgolion yr ardal, ond mae pob bwriad hefyd o estyn a chyrraedd y gymdeithas yn ehangach hefyd. Cefnogir ein gweithwyr brwdfrydig fwyaf trwy gymorth hael tair o Eglwysi yn lleol i'r Wyddgrug: Canolfan Gristnogol Kings; Ebenezer, eglwys y Bedyddwyr a Chapel Bethesda gyda chymorth Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Datganiad Cenhadaeth Agathos
I addysgu plant a phobl ifanc am gynnwys a pherthnasedd efengyl Iesu Grist, trwy ddysgu/ hyfforddi, addoliad ar y cyd (term cydnabyddedig am ‘collective worship’), weithgareddau ychwanegol i’r cwricwlwm a chefnogaeth fugeiliol, ar ac oddi ar dir yr ysgolion yng Ngogledd Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Cliciwch y bathodynnau isod er mwyn darganfod mwy o wybodaeth am yr Eglwysi yn unigol.

tîm agathos
Cyfarwyddwr Gwaith Ysgolion

Mae Wendy Swan wedi bod yn gweithio mewn ysgolion fel ymwelydd Cristnogol ers iddi hyfforddi gyda Scripture Union a The Light Project yn 2005, ac mae hi'n rhan o'r tîm a sefydlodd Agathos.
Mae ganddi faich dros weld bywydau'n cael eu trawsnewid drwy berthynas ac Iesu Grist, ac am ddangos cariad Duw mewn ffurf ymarferol i eraill. Mae ganddi gariad mawr tuag at blan o bob oedran a cŵn o bob maint! Mae hi i'w weld yn aml o gwmpas y dre neu ar y bryniau yn cerdded gyda phlant a chi a ffrindiau. Mae Wendy yn byw yng nghanol Yr Wyddgrug, yn agos i nifer o'r ysgolion sy'n agos i'w chalon hi.
Mae Wendy hefyd yn falch o'r fraint o gael gweini fel Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bryn Gwalia, ac fel aelod prysur o eglwys King's Christian Centre.

Gweithiwr gwirfoddol 2015.

Mae Kieran O'Loan wedi ymuno a'r tim eleni er mwyn cael hyfforddiant mewn gwaith Cristnogol mewn ysgolion. Mae'n byw yn Yr Wyddgrug ac yn mynychu eglwys King's Christian Centre. Dyma rhai o'i feddyliau ar gychwyn y flwyddyn:
Hyd hyn, mae'r cyfle i weithio mewn nifer o ysgolion o gwpas ardal yr Wyddgrug gydag Agathos wedi bod yn wych, Fe benderfynnais gwneud y flwyddyn gap yma er mwyn ehangu fy mhrofiad o fewn ysgolion ac o waith gyda Ieuenctid ac i fod yn siwr ar ba lwybr yr wyf yn cael fy arwain i gychwyn gyrfa. Yn ogystal a wirfoddoli gydag Agathos a King's, mi wyf yn hyfforddi tuag at NVQ lefel 3 gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint. Ar y penwythnos, rwy'n gweithio mewn tafarn. Mae gen i nifer fawr o ddiddordebau, ac yn cymryd rhan mewn sawl grwp e.e. grwp actio Rhufeing ardal Caer.