Ymddiriedolaeth Agathos
  • Hafan
  • Amdanom Ni
  • Blog
  • Galeri
  • Cysylltu
  • Gwirfoddolwyr
  • Rhaglen Blwyddyn Gap

Hollywood a Gwasanaethau

19/1/2014

0 Comments

 
Picture
Rwyf wrth fy modd yn gwylio ffilm dda . Yn enwedig un sy'n herio agweddau a fyd-olwg; sy'n cynnwys haenau o ystyr (" ogres are like onions ..... " ) a chymeriadau sy'n ysbrydoli . Ychwanegwch special effects cyffroes, cerddoriaeth wych a popcorn ac fe welwch ferch hapus . Mae themâu sy'n ysbrydoli i’w weld mewn nifer fawr o’m ffefrynnau, innau trwy’r ffilm gyfan neu mewn sefyllfaoedd sy’n codi.


Yn anffodus, mae 'na hefyd llawer iawn o sbwriel negyddol, rhywiol a llawn trais yn llenwi gwylio plant a phobl ifanc sydd yn aml yn gadael i mi deimlo fel dinistrio pob sgrin y gallaf. Yr wyf yn credu y gall y cyfryngau gwneud niwed mawr, ond hefyd yn gallu cael dylanwad da iawn ( "gyda nerth mawr daw cyfrifoldeb mawr ... " ), a beth bynnag yw eich safbwynt personol ar wylio ffilmiau a theledu, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod plant a phobl ifanc yn cael eu swyno a'i ddylanwadu'n hawdd gan y cyfryngau y maent yn defnyddio mor aml.

Felly, yr wyf wrth fy modd yn tynnu themâu gwych allan o ffilmiau , teledu a straeon adnabyddus a'i ddangos o fewn fy ngwasanaethau a gwersi er mwyn gyflwyno themâu ac ysgogi trafodaeth. Rwyf hefyd wrth fy modd yn dangos pa mor ddwfn i'n ddiwylliant mae gwreiddiau Beiblaidd yn mynd - themâu megis cariad, gobaith, daioni, drygioni, caredigrwydd a mwy.

Tymor diwethaf, fe ddefnyddiais y ffilm 'Man of Steel' i gyflwyno’r thema o ddoniau a thalentau; nifer o fideos animeiddiedig byr ar themâu Nadolig ac ymchwiliadau i effaith Photo-Shop ar ein delweddau o berffeithrwydd a'r effaith mae hynny'n cael ar hunan-barch a hyder.

Yn hytrach na chyfleu agwedd sy'n awgrymu na ddylai'r disgyblion gwylio ffilmiau, rhag ofn cael euddylanwadu gan y cyfryngau, ac yn hytrach darllen y Beibl yn unig i ddarganfod mwy am Dduw, mae'n well gen i ddangos iddynt sut mae Duw, ei ras a'i gariad, yn bresennol ac yn weithgar mewn cymaint o themâu a storïau bywyd y maent yn gyfarwydd â hwy. Trwy ddangos sut mae cymaint o'n gwerthoedd ac agweddau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw a'i stori wych, dragwyddol yn un ffordd o dynnu eraill i mewn i'r stori honno, ac i'n hannog ni i gyd i edrych yn fanylach ar yr Un sydd wedi ysbrydoli cynifer o bobl dros y byd, a thrwy gydol hanes, ac y mae Ei stori yn gwehyddu drwy ffabrig cymaint sy'n gyfarwydd i bawb.

Dyma dolenni i rai gyfryngau rwyf wedi ei chael yn ddefnyddiol iawn wrth gyflwyno thema:
"What if a child dreamed of becoming something other than society intended? What if a child aspired to be something greater?" 
Jor-El, tad Kal-El
Dyma 'playlist' mi wnes i greu ar YouTube o ffilmiau byr animeiddiedig sy'n cyflwyno'r Nadolig mewn ffurf gyfoes.  'Retooning the Nativity' yw fy ffefryn personol eleni.

Mae seicolegwyr wrth ei fodd yn ymchwilio mewn i beth sy'n effeithio ar ein meddylfryd.  Mae nifer o astudiaethau wedi ei chynnal i archwilio natur hapusrwydd, ac mae un peth wedi codi sydd hefyd yn thema fawr yn y Beibl - helpwch eraill.  Mae mynd allan o'ch ffordd i wneud da i rywun, heb reswm na gofyn, yn creu hapusrwydd ynom ni (ac fel arfer yn yr un sy'n derbyn hefyd)
0 Comments



Leave a Reply.

    Awdur

    Wendy Swan, Arawn Glyn, neu Hannah Stephens.

    Archives

    January 2014
    October 2013
    March 2013
    January 2013
    November 2012
    October 2012

    Categories

    All
    Agwedd
    Beibl
    Cymun
    Eglwys
    Ffilm
    Hwyl
    Nadolig
    Pasg
    Profiad
    Themau

    RSS Feed


Powered by Create your own unique website with customizable templates.