Y tymor hwn rydyn ni wedi bod yn cwrdd â llawer o bobl ifanc newydd yn ein Hysgolion Uwchradd ac yn mwynhau gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys Bwth Lluniau'r Geni a gemau ar thema'r Nadolig! Rydym nawr yn arwain gweithgareddau wythnosol yn Ysgolion yr Alun a Maes Garmon , gan ddefnyddio neuadd yr ysgol a mannau eraill, gyda gwahanol themâu a gweithgareddau bob wythnos. Gan gyd-weithio efo Lowri Mitton, ein partner o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, rydym wedi archwilio hunaniaeth, gwerthoedd moesol a chymeriad gan ddefnyddio gemau a cherddoriaeth / fideo (mae Lowri yn wych am greu cynnwys fideo ar thema!). Trwy gydol mis Rhagfyr buom yn archwilio stori'r Geni o safbwynt y bugeiliaid, y cwpl ifanc dryslyd, y gwyr doeth a'r angylion. Cododd nifer o gwestiynau wrth i ni drafod genedigaeth wyrthiol Iesu - bu rhai hyd yn oed yn chwilio Google i weld os oeddem yn tynnu eu coesau! ("Be 'dych chi'n feddwl roedd Mair yn dal i fod yn forwyn ???? Ond ‘dydy hynny ddim yn bosibl!" "Byddai hynny'n enedigaeth wyrthiol .... ooooooo!!!)
Daeth Tim Byram o Eglwys King's i helpu gyda beth brofodd i fod yn fwth lluniau poblogaidd iawn gyda Blwyddyn 7 ac 8 yn yr Alun - cawsom ein sathru gan garlam o gamelod a bwrlwm o fugeiliaid, ein syfrdanu gan yr holl angylion a ffeindio'n hunain ar ein gliniau ynghyd â’r Dynion Doeth erbyn y diwedd!!!
Roedd y cyfan yn hwyl i bawb - ond rhoddodd hefyd gyfleoedd gwych i sgwrsio am ffydd, teimladau pobl ifanc yng nghanol y diwylliant presennol o fod mewn cyswllt o hyd ac i archwilio rhai o'u cwestiynau am Dduw a chrefydd.