Gobeithio y cawsoch haf hyfryd yn mwynhau'r tywydd dramor ar wyliau neu yma yng Nghymru. Dwi ddim yn siwr os oedd llawer o wahaniaeth a deud y gwir. Mae'r misoedd yn brysur fynd heibio a'r dyddiau yn byrhau yn gyflym iawn. Dyma ychydig bach o wybodaeth i chi am yr hyn sydd yn mynd mlaen yn nhymor yr Hydref efo fi Arawn sy'n gweithio gyda'r Eglwysi a'r Ysgolion Cymraeg yn Sir y Fflint. Nai ddechra efo'r oedran ieuenctid hyn - dani yn cyfarfod eto ar nos fawrth bob wythnos ond bellach wedi symud i gyfarofd yn COSTA yr Wyddgrug am 6:00 tan 7:00yh. Rydym wedi bod yn defnyddio adnodd Alpha - cwestiynnau mawr bywyd ond bellach rydym wedi symud ymlaen i ddefnyddio'r adnodd arbennig o'r enw 'Prodigal God' gan Timothy Keller; sy'n edrych ar hanes y mab afradlon dros chwe sesiwn cryno sy'n codi nifer o gwestiynnau arbennig o'r testun yn Efengyl Luc.
Mae'r eglwysi i gyd yn brysur yn paratoi at wasanaethau diolchgarwch a'r Nadolig hyd yn oed. Oherwydd hyn dwi 'on call' i fod yn barod i helpu ac yn barod dwi wedi derbyn 4 gwahoddiad i fod yn gwneud gwasanaethau diolchgarwch yn y Sir.
Mae'r clybiau plant a'r clwb ieuenctid yn rhedeg yn gyson unwaith eto elenni yn y gwahanol bentrefi.
Os yn chwilio am fawl unwaith eto i fod yn rhan o'ch defosiwn dyddiol buaswn yn awgrymu darllen Lefiticus 19 i gyd - ond gwyliwch allan yn arbennig am adnodau 17-18! Yno mae Duw yn datguddio ei gymeriad i ni. Yno mae'n dangos sut y mae o isho i ni drin cymydog. Nid dim ond am y rhesymau bod o yn gyngor da gan Dduw - ond mae'n pwysleisio mai dyna sut un ydy Duw. Mae'n caru 'caru' a mae'n caru maddau i ni.
Gweddiwch hefyd amdanaf wrth i fi fod yn mynd i mewn i ddosbarthiadau blwyddyn 7 Maes Garmon wythnos yma. Dwi am fod yn rhannu pam bod y Beibl yn bwysig i fi fel Cristion. Maent eisioes wedi paratoi cwestiynnau - fi sydd ddigon lwcus i fod yn cael y cyfle i rannu.
Bendith i chi gyd yn Nhymor ewyllys da.
Yn rhwymau'r Efengyl
Arawn