Ymddiriedolaeth Agathos
  • Hafan
  • Amdanom Ni
  • Blog
  • Galeri
  • Cysylltu
  • Gwirfoddolwyr
  • Rhaglen Blwyddyn Gap

Nol i'r Ysgol a ni

14/10/2013

0 Comments

 
Picture
Mae'r tymor yn hedfan heibio, mae'n anodd credu fod chwe wythnos wedi mynd yn barod.  Mae'r gwaith anffurfiol o fewn yr ysgolion uwchradd wedi ail-gylchwyn mewn ffordd arbennig o dda, ac mae'n wych cael ddau gwirffodolwr ifanc sy'n cael ei hyfforddi yng ngwaith Cristnogol yn gweithio gyda fi; mae Nicola yn helpu yng nghlwb 'Rock Solid' ac mae Steph yn ymuno a ni yng ngweithgareddau 'Xplore'.  Mae Xplore yn cynnwys gemau sy'n denu amryw i gymryd rhan, a hefyd gweithgareddau fwy adolygol megis cwestiyanu i Dduw a cyfle i weddio'n greadigol.

Picture
Mi ydan ni eisoes wedi arwain dau wasanaeth flwyddyn ym Maes Garmon, gydag ymweliad annisgwyl gan Uwch Dim Rheoli'r ysgol (pob peth wedi mynd yn dda yno, diolch fyth!)  Mae gennym wasanaethau nawr o leiaf unwaith bob hanner tymor dros y flwyddyn ysgol.
Fe fyddaf i'n arwain gwasanaethau fesul llys yn yr Alun wythnos nesaf, a mwy jyst cyn y Nadolig. 
Mae Wendy ac Arawn wedi cael her dda wrth gael ei holi gan ddisgyblion o fewn gwersi Addysg Grefyddol; Wendy yn trafod Sancteiddrwydd Bywyd gyda Blwyddyn 9 yn yr Alun ac Arawn yn trafod pwysigrwydd a gwerth y Beibl gyda Blwyddyn 7 ym Maes Garmon.

Mae Clwb Drws Agored Maes Garmon yn gweld criw ffyddlon o ddisgyblion ifanc yn dod i ddysgu mwy am y Beibl a Christnogaeth, ac i chwarae gemau gyffrous.  Ar ol ysgol bob Ddydd Llun, mae gennym astudiaeth ar gyfer rhai o Flwyddyn 9+, sy'n gyfle i ni cael fynd yn ddyfnach i Air Dduw ac i annog ein gilydd yn ein ffydd.  Mae Llythyr Paul at y Rhufeiniad yn ein herio a'n hybu wrth ini weithio drwyddi gyda'n gilydd.

Mae gwasanaethau 'Agor y Llyfr'  wedi ail-gychwyn yn rheolaidd mewn 8 ysgol gynradd yr ardal, ac mae'r croeso nol gan y plant a'r staff wedi codi ein calonnau.  Mae'r plant yn mwynhau dod i nabod ein hyfforddeion Steph, Nicola a Nia, ac yn falch o weld Olive a Trish yn helpu eto eleni.

Dwi'n edrych mlaen yn arw at arwain 'Lloches', sef arsefydliad sy'n creu seibiant i'r plant, cyfle i ymateb yn greadigol i gwestiynau mawr fywyd ac i weddïo hefyd. Fydd y gweithgareddau yn cymryd rhan yn ystod wythnos Atal Bwlio. 

0 Comments



Leave a Reply.

    Awdur

    Wendy Swan, Arawn Glyn, neu Hannah Stephens.

    Archives

    January 2014
    October 2013
    March 2013
    January 2013
    November 2012
    October 2012

    Categories

    All
    Agwedd
    Beibl
    Cymun
    Eglwys
    Ffilm
    Hwyl
    Nadolig
    Pasg
    Profiad
    Themau

    RSS Feed


Powered by Create your own unique website with customizable templates.