Mae Lowri yn cynnal gwasanaethau achlysurol yn Ysgol Gwenffrwd hefyd, yn ogystal â gwersi a chlwb ar ôl ysgol. Gobeithiwn weld mwy o wirfoddolwyr Cymraeg yn ymuno gyda ni er mwyn allu cynnig rhaglen Agor y Llyfr yn gyson yn ysgol Gymraeg newydd y sir, sef Ysgol Croes Atti Shotton, ac yn fwy aml yn Gwenffrwd os ddymunir.
Mae Agathos yn cael nifer o gyfleuon i fod o gymorth i Ysgol Maes Garmon ac i weithio gyda'r disgyblion yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Mae Clwb Holi yn denu criw ffyddlon o blant o flynyddoedd 7-9 gyda un o'r chweched yn helpu'n gyson. Trwy gemau a gweithgareddau mi ydym yn darganfod gyda'n gilydd rhai o ddirgelion Duw ac yn herio rhai o safonnau'r byd sy'n sefyll yn erbyn bwriad da Duw dros ei blant a'i byd.
Mi ydw i wedi cael y fraint o arwain gwersi gyda blwyddyn 7 ar sut mae Cristnogion yn defnyddio'r Beibl ac ar ddameg y Mab Afradlon. Hefyd, gan fod yr ysgol yn awyddus i weld ei ddisgyblion yn cymryd rhan yn fwy llafar mewn cyfnodau Addoli ar y Cyd, yn lle arwain gwasanaethau flwyddyn dw i wedi arwain sesiynau bywiog fesul dosbarth i feddwl am gymeriad Duw. Mae Lowri yn ymuno gyda'r gwaith yma mor aml ac y mae hi'n gallu ei wneud.