Amser inni Chwilota'r Pasg unwaith eto. Dyma'r pumed flwyddyn i Agathos arwain sesiynau yn Wyddgrug, yn gwahodd dosbarthiadau ysgolion lleol yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhyngweithiol. Mae'r disgyblion yn cael gwisgo i fyny fel dinasyddion Jerwsalem, ac yn cael ei arwain trwy ddigwyddiadau wythnos y Pasg gan wirfoddolwyr, hefyd yn chwarae rôl pobl gyffredin yr amser. Rydym yn profi cynnwrf strydoedd Jerwsalem wrth i Iesu ddod mewn i gri 'Hosanna' gan y dorf, ac wedyn yn clywed am Iesu'n dysgu yn y Deml, rhannu ei Swper Olaf ac yn y diwedd yn cael ei gyhuddo heb fai a'i ddedfrydu i farwolaeth. Fe welwn syndod Pedr a Mair wrth iddynt fyfyrio ar gyhuddiad a marwolaeth yr un oeddynt yn ei garu, a gydag ef ei obeithion i gyd.
Ond wedyn fe ddaw obaith y bedd wag....
Wythnos nesaf, 'da ni'n mynd allan Ar Daith efo'r gweithgaredd am y tro cyntaf. Mae costau teithio yn golygu nad yw lawer o ysgolion tu allan i'r Wyddgrug wedi cael cyfle i gymryd rhan, felly fe penderfynnom fynd allan atynt. Mae'n sialens feddwl am sut i droi gweithgaredd sy'n defnyddio tair ystafell eang o fewn adeilad mawr i un sy'n dal i greu teimlad a siwrne o fewn neuadd ysgol, ond mae Arawn a Hannah wedi dod a syniadau gwych am props a lleoli bydd yn siŵr o greu awyrgylch wych.