Ymddiriedolaeth Agathos
  • Hafan
  • Amdanom Ni
  • Blog
  • Galeri
  • Cysylltu
  • Gwirfoddolwyr
  • Rhaglen Blwyddyn Gap

Hwyl y Nadolig!

13/1/2020

0 Comments

 
Y tymor hwn rydyn ni wedi bod yn cwrdd â llawer o bobl ifanc newydd yn ein Hysgolion Uwchradd ac yn mwynhau gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys Bwth Lluniau'r Geni a gemau ar thema'r Nadolig! Rydym nawr yn arwain gweithgareddau wythnosol yn Ysgolion yr Alun a Maes Garmon , gan ddefnyddio neuadd yr ysgol a mannau eraill, gyda gwahanol themâu a gweithgareddau bob wythnos. Gan gyd-weithio efo Lowri Mitton, ein partner o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, rydym wedi archwilio hunaniaeth, gwerthoedd moesol a chymeriad gan ddefnyddio gemau a cherddoriaeth / fideo (mae Lowri yn wych am greu cynnwys fideo ar thema!). Trwy gydol mis Rhagfyr buom yn archwilio stori'r Geni o safbwynt y bugeiliaid, y cwpl ifanc dryslyd, y gwyr doeth a'r angylion. Cododd nifer o gwestiynau wrth i ni drafod genedigaeth wyrthiol Iesu - bu rhai hyd yn oed yn chwilio Google i weld os oeddem yn tynnu eu coesau! ("Be 'dych chi'n feddwl roedd Mair yn dal i fod yn forwyn ???? Ond ‘dydy hynny ddim yn bosibl!" "Byddai hynny'n enedigaeth wyrthiol .... ooooooo!!!)
Daeth Tim Byram o Eglwys King's i helpu gyda beth brofodd i fod yn fwth lluniau poblogaidd iawn gyda Blwyddyn 7 ac 8 yn yr Alun - cawsom ein sathru gan garlam o gamelod a bwrlwm o fugeiliaid, ein syfrdanu gan yr holl angylion a ffeindio'n hunain ar ein gliniau ynghyd â’r Dynion Doeth erbyn y diwedd!!!
Roedd y cyfan yn hwyl i bawb - ond rhoddodd hefyd gyfleoedd gwych i sgwrsio am ffydd, teimladau pobl ifanc yng nghanol y diwylliant presennol o fod mewn cyswllt o hyd ac i archwilio rhai o'u cwestiynau am Dduw a chrefydd.
0 Comments

Jamborama!

26/6/2019

0 Comments

 
Picture
Eleni mae Agor y Llyfr yn dathlu 20 mlynedd o gyflwyno gwasanaethau Beiblaidd mewn Ysgolion Cynradd - dyna garreg filltir anhygoel!   Anogwyd rhai o'n Storïwyr yn fawr trwy fynychu Gwasanaeth Dathlu ym Mae Colwyn, ynghyd â Storïwyr o bob rhan o Ogledd Ddwyrain Cymru.  
Fe benderfynnom fod yn rhaid dathlu gyda phlant yr ysgolion hefyd, a dyna sut llenwyd y capel a lliwiau'r enfys wrth i 270 o blant canu ag actio ei ffordd trwy'r Beibl Gyfan mewn tua awr!


Read More
0 Comments

Datblygiadau

6/2/2015

0 Comments

 
Picture
Mae rhaglen gwasanaethau bywiog 'Agor y Llyfr' yn cael ei chynnal pob pythefnos yn ysgolion Croes Atti, Terrig a Mornant a ddwywaith yr hanner tymor yng Nglanrafon - gyda chymorth Lowri a'n gwirfoddolwr ffyddlon Katherine Richards. 

Read More
0 Comments

Hollywood a Gwasanaethau

19/1/2014

0 Comments

 
Picture
Rwyf wrth fy modd yn gwylio ffilm dda . Yn enwedig un sy'n herio agweddau a fyd-olwg; sy'n cynnwys haenau o ystyr (" ogres are like onions ..... " ) a chymeriadau sy'n ysbrydoli . Ychwanegwch special effects cyffroes, cerddoriaeth wych a popcorn ac fe welwch ferch hapus . Mae themâu sy'n ysbrydoli i’w weld mewn nifer fawr o’m ffefrynnau, innau trwy’r ffilm gyfan neu mewn sefyllfaoedd sy’n codi.


Yn anffodus, mae 'na hefyd llawer iawn o sbwriel negyddol, rhywiol a llawn trais yn llenwi gwylio plant a phobl ifanc sydd yn aml yn gadael i mi deimlo fel dinistrio pob sgrin y gallaf. Yr wyf yn credu y gall y cyfryngau gwneud niwed mawr, ond hefyd yn gallu cael dylanwad da iawn ( "gyda nerth mawr daw cyfrifoldeb mawr ... " ), a beth bynnag yw eich safbwynt personol ar wylio ffilmiau a theledu, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod plant a phobl ifanc yn cael eu swyno a'i ddylanwadu'n hawdd gan y cyfryngau y maent yn defnyddio mor aml.

Felly, yr wyf wrth fy modd yn tynnu themâu gwych allan o ffilmiau , teledu a straeon adnabyddus a'i ddangos o fewn fy ngwasanaethau a gwersi er mwyn gyflwyno themâu ac ysgogi trafodaeth. Rwyf hefyd wrth fy modd yn dangos pa mor ddwfn i'n ddiwylliant mae gwreiddiau Beiblaidd yn mynd - themâu megis cariad, gobaith, daioni, drygioni, caredigrwydd a mwy.


Read More
0 Comments

Nol i'r Ysgol a ni

14/10/2013

0 Comments

 
Picture
Mae'r tymor yn hedfan heibio, mae'n anodd credu fod chwe wythnos wedi mynd yn barod.  Mae'r gwaith anffurfiol o fewn yr ysgolion uwchradd wedi ail-gylchwyn mewn ffordd arbennig o dda, ac mae'n wych cael ddau gwirffodolwr ifanc sy'n cael ei hyfforddi yng ngwaith Cristnogol yn gweithio gyda fi; mae Nicola yn helpu yng nghlwb 'Rock Solid' ac mae Steph yn ymuno a ni yng ngweithgareddau 'Xplore'.  Mae Xplore yn cynnwys gemau sy'n denu amryw i gymryd rhan, a hefyd gweithgareddau fwy adolygol megis cwestiyanu i Dduw a cyfle i weddio'n greadigol.


Read More
0 Comments

mis medi wedi pasio yn barod!

8/10/2013

0 Comments

 
Picture
Gobeithio y cawsoch haf hyfryd yn mwynhau'r tywydd dramor ar wyliau neu yma yng Nghymru. Dwi ddim yn siwr os oedd llawer o wahaniaeth a deud y gwir. Mae'r misoedd yn brysur fynd heibio a'r dyddiau yn byrhau yn gyflym iawn. Dyma ychydig bach o wybodaeth i chi am yr hyn sydd yn mynd mlaen yn nhymor yr Hydref efo fi Arawn sy'n gweithio gyda'r Eglwysi a'r Ysgolion Cymraeg yn Sir y Fflint. Nai ddechra efo'r oedran ieuenctid hyn - dani yn cyfarfod eto ar nos fawrth bob wythnos ond bellach wedi symud i gyfarofd yn COSTA yr Wyddgrug am 6:00 tan 7:00yh. Rydym wedi bod yn defnyddio adnodd Alpha - cwestiynnau mawr bywyd ond bellach rydym wedi symud ymlaen i ddefnyddio'r adnodd arbennig o'r enw 'Prodigal God' gan Timothy Keller; sy'n edrych ar hanes y mab afradlon dros chwe sesiwn cryno sy'n codi nifer o gwestiynnau arbennig o'r testun yn Efengyl Luc.


Read More
0 Comments

BLE MAE'R TÎM WEDI MYND????

4/10/2013

0 Comments

 
Picture
Mae'r swyddfa yn ddistaw, does gan Wendy dim syniad beth mae hi wedi 
 anghofio heddiw ac mae'r siart gwobr am siarad Cymraeg wedi mynd o'r
wal. 
Y rheswm dros ein
 tristwch yw bod ein myfyrwyr Hannah a
Ben wedi ymadael i gychwyn ar raddau yn Ffiseg a Diwinyddiaeth (sioc oedd gwybod ei fod mor glyfar ar ôl ei guddio mor dda oddi  wrthym....*).  Mae Hannah yn setlo mewn yn dda i Brifysgol Southampton, a Ben wrth ei fodd yn addoli gyda ffrindiau newydd yn London School of Theology. 
Dros y flwyddyn ddiwethaf mi oedd ei gyfraniad at y gwaith ymysg plant a phobl ifanc yn eithriadol, gan ddod a syniadau newydd, egni a gwaith caled i bob prosiect.

*jôc. Mi oedd yn amlwg i bawb ei fod yn alluog dros ben

Blwyddyn Gap
0 Comments

mae'r pasg yn dod!

15/3/2013

0 Comments

 
Picture
Amser inni Chwilota'r Pasg unwaith eto.  Dyma'r pumed flwyddyn i Agathos arwain sesiynau yn Wyddgrug, yn gwahodd dosbarthiadau ysgolion lleol yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhyngweithiol.  Mae'r disgyblion yn cael gwisgo i fyny fel dinasyddion Jerwsalem, ac yn cael ei arwain trwy ddigwyddiadau wythnos y Pasg gan wirfoddolwyr, hefyd yn chwarae rôl pobl gyffredin yr amser. Rydym yn profi cynnwrf strydoedd Jerwsalem wrth i Iesu ddod mewn i gri 'Hosanna' gan y dorf, ac wedyn yn clywed am Iesu'n dysgu yn y Deml, rhannu ei Swper Olaf ac yn y diwedd yn cael ei gyhuddo heb fai a'i ddedfrydu i farwolaeth.  Fe welwn syndod Pedr a Mair wrth iddynt fyfyrio ar gyhuddiad a marwolaeth yr un oeddynt yn ei garu, a gydag ef ei obeithion i gyd.  

Ond wedyn fe ddaw obaith y bedd wag....

Wythnos nesaf, 'da ni'n mynd allan Ar Daith efo'r gweithgaredd am y tro cyntaf.  Mae costau teithio yn golygu nad yw lawer o ysgolion tu allan i'r Wyddgrug wedi cael cyfle i gymryd rhan, felly fe penderfynnom fynd allan atynt.  Mae'n sialens feddwl am sut i droi gweithgaredd sy'n defnyddio tair ystafell eang o fewn adeilad mawr i un sy'n dal i greu teimlad a siwrne o fewn neuadd ysgol, ond mae Arawn a Hannah wedi dod a syniadau gwych am props a lleoli bydd yn siŵr o greu awyrgylch wych.

0 Comments

hwyl yn y swyddfa

24/1/2013

0 Comments

 
Picture
O Wendy'n plancio yn y swyddfa i sgyrsiau ar gyflymder ras, does byth diwrnod diflas yn y swyddfa gyda Wendy, Arawn a Ben.  Heddiw, fe fuom yn trafod gwerth dyncio sglodion i mewn i hufen iâ!  Rydym wedi penderfynu y dylwn gofnodi pob gair mae Wendy yn ei ddweud o hyn ymlaen, fel y gall pawb fwynhau'r digrifwch yr ydym yn bendithio ohoni. Y rhandaliad cyntaf yw "WhatWhat?" mewn llais cwestiynu uchel! 
P.S. os gwelwch Ben o gwmpas y dre, fe ddylech ganu Blue gan Eiffel 65 neu One Direction - bydd y ddau yn siŵr o gael effaith fawr arno! 
(Hannah)

0 Comments

Cymun bendigaidd

28/11/2012

0 Comments

 
Picture
Yr wythnos hon cefais wahoddiad i gymryd gwers gyda disgyblion Blwyddyn 6 am y Cymun Bendigaid. Dim ond dau o blant yn y dosbarth oedd erioed wedi bod mewn gwasanaeth cymun, ac nid oedd neb wedi derbyn cymun eu hunain.
Fe aethom drwy'r Swper Olaf o'r Testament Newydd a sut mae hynny wedi dod yn sacrament yn yr eglwys Gristnogol. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn clywed am fy mhrofiadau personol o gymryd cymun mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol, ac yn awyddus i wybod pam fod cymun yn bwysig i Gristnogion, a sut y mae'n gwneud i ni deimlo cyswllt efo Dduw. Ar ddiwedd y wers fe basiwyd bara a sudd grawnwin fel y gallent brofi drostynt eu hunain sut fod cymun yn cael ei gymryd yn fy eglwys i, gan ei gwneud yn glir ein bod nad oeddynt yn cymryd cymun go iawn, dim ond blasu.Ar ddiwedd y wers, fe ofynnais iddynt rannu sut oeddynt yn teimlo ar ôl chwarae rôl o gymryd cymun.  Fe gefais ymateb positif iawn gan bob un, gyda disgrifiadau megis 'heddychlon', 'distaw,' 'meddylgar' yn dangos ei fod wedi gwerthfawrogi'r profiad. 
 (Wendy)

0 Comments
<<Previous

    Awdur

    Wendy Swan, Arawn Glyn, neu Hannah Stephens.

    Archives

    January 2014
    October 2013
    March 2013
    January 2013
    November 2012
    October 2012

    Categories

    All
    Agwedd
    Beibl
    Cymun
    Eglwys
    Ffilm
    Hwyl
    Nadolig
    Pasg
    Profiad
    Themau

    RSS Feed


Powered by Create your own unique website with customizable templates.